ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Oeddech chi'n gwybod bod Rafftio Dŵr Gwyn yn weithgaredd gwych i’r teulu? P'un a ydych yn chwilio am rywfaint o adloniant ar benwythnosau gyda'ch partner a'ch plant, neu a ydych am ddod â mwy o aelodau o'ch teulu ynghyd, mae ein cyrsiau Rafftio Dŵr Gwyn i’r teulu yn ddewis perffaith ar gyfer grwpiau mawr sy'n dymuno llywio'r tonnau gyda'i gilydd.

Beth yw Rafftio i'r Teulu?

Mae Rafftio i’r Teulu yn amrywiaeth ar ein sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac mae’n boblogaidd iawn ymhlith oedolion sydd am wneud Rafftio Dŵr Gwyn gyda’r plant.  Mae’r cwrs yn fwy hamddenol na’n sesiynau traddodiadol, gyda lefelau dŵr is a llif y dŵr yn arafach, sy’n ei gwneud yn antur berffaith i’r teulu cyfan. 

Mae’r sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu dwy awr o hyd yn addas (ac yn ddiogel!) i aelodau o bob gallu o’r teulu ar yr amod eu bod yn hŷn na 6 oed.  Mae Rafftio i’r Teulu, a gynhelir ar ein cwrs dŵr gwyn pwrpasol, yn weithgaredd gwych i’r teulu sy’n cynnig cyfle i bawb i brofi cyffro llywio’r tonnau.  

Pwy all gymryd rhan mewn Rafftio Dŵr Gwyn i’r Teulu?

Bron pawb. Fel y soniwyd eisoes, mae plant mor ifanc â chwech oed yn gallu cymryd rhan, ynghyd ag aelodau ifanc a hŷn o'r teulu. Mae'r rafftiau'n dal hyd at chwech o bobl yr un, sy'n golygu y gallwch gael eich teulu estynedig i gymryd rhan a throi'r diwrnod i'r teulu yn fodd o dynhau clymau teuluol neu’n gystadleuaeth hwyliog.

Rydym yn darparu hyfforddiant arbenigol ac offer llawn, felly nid oes rhaid i chi baratoi unrhyw beth. Y cyfan y mae angen ei wneud yw dod i gael hwyl.

Pryd y cynhelir sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn i’r teulu?

Cynhelir sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn i’r teulu dwywaith yr wythnos, ar nosweithiau Mercher ac ar foreau Sul. Cynhelir y sesiynau hyn trwy gydol y flwyddyn, sy’n ei gwneud yn ddewis perffaith ar gyfer Rafftio Dŵr Gwyn gyda’r plant yn ystod gwyliau’r ysgol.  Gwych ar gyfer cadw’r plant yn ddiddan gyda gweithgaredd newydd a chyffrous.

Faint mae Rafftio i’r Teulu yn ei gostio?

Yn wahanol i lawer o weithgareddau grŵp y gall y costau ar eu cyfer godi’n sylweddol ar gyfer grwpiau o fwy na phedwar person, mae ein sesiynau Rafftio i’r Teulu’n costio cyn lleied â £25 y person ac felly mae’n fforddiadwy i chi a phob un o’n perthnasau.  Hefyd, gan fod y sesiynau’n para dwy awr, mae’n sicr y cewch werth eich arian wrth wneud ein cwrs Rafftio Dŵr Gwyn i’r teulu.

Ble mae cwrs Rafftio Dŵr Gwyn i’r teulu?

Mae cwrs DGRhC, y gellir ei gyrraedd yn gyflym o ganol y ddinas, wedi’i leoli yng nghanol Bae Caerdydd.  Mae’n cyfleusterau, y gellir eu cyrraedd yn hawdd mewn car neu ar fws, yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr.  Wedi'r cyfan, mae'n cynnwys ystod o brofiadau gwefreiddiol ac yn gwneud man cychwyn perffaith ar gyfer diwrnod allan i'r teulu yng Nghaerdydd.

Dysgwch fwy am ein sesiynau Rafftio Dŵr Gwyn i'r Teulu