ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ydych chi'n barod am yr hanner tymor?

Os ydych chi'n chwilio am ffordd o wneud hanner tymor mis Chwefror (dydd Llun 17 – dydd Gwener 21 Chwefror) yn un bythgofiadwy, rydych chi’n ffodus iawn! Does dim eiliad o ddiflastod yng Nghaerdydd, gan fod cymaint o adloniant i blant o bob oedran yn y ddinas.

Os yw’ch plantos llawn miri yn hoff o weithgareddau egnïol, mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) yn cynnig ffordd berffaith o ddiddanu’r plant. Gyda'n hystod o weithgareddau sy'n rhoi hwb i'r adrenalin a lleoliad cyfleus (dafliad carreg o ganol y ddinas), mae'r cyfleuster yn lleoliad poblogaidd i blant dros 5 oed ac o bob gallu yn ystod gwyliau'r ysgol.

Hwyl i’r teulu cyfan

Rafftio i deuluoedd yw'r ffordd ddelfrydol o gael blas ar y wefr a'r sblasys o'r cwrs dŵr gwyn. Rydym yn lleihau lefel a chyflymder y dŵr, felly gall plant mor ifanc â 6 oed gymryd rhan. Gyda hyd at 6 pherson mewn rafft, mae hwylio’r dyfroedd yn siŵr o roi hwyl yn eich amser fel teulu.

Rhowch gynnig ar chwaraeon padlo

Gall teuluoedd sy'n hoff o antur sy’n chwilio am fwy na rafftio dŵr gwyn gofrestru ar gyfer ein Sesiynau Blasu Padlo i'r Teulu. Gyda dewis rhwng Canŵio, Caiacio neu Badlfyrddio (SUP), gall teuluoedd ddysgu hanfodion chwaraeon padlo gyda'i gilydd yn niogelwch ein pwll dŵr gwastad. Os ydych chi eisiau hwyl i’r teulu, gallwch archebu sesiwn yn y bore neu’r prynhawn yn dibynnu ar eich amserlen.

Achos mae’n dal i fod braidd yn oer i fynd i'r traeth

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn frwd am chwaraeon bwrdd Mae corff-fyrddio ar gael trwy’r flwyddyn yn DGRhC hyd yn oed pan nad yw’r tywydd y tu allan yn denu! Mae’r peiriant Ton Dan Do yn cynnig dyluniad dwy lôn, er mwyn i deuluoedd a ffrindiau allu profi eu sgiliau newydd gyda’i gilydd. Mae digon o seddau hefyd i’r rhai sydd eisiau eistedd a gwylio.

Arhoswch yn uchel a sych!

Os nad ydych chi’n rhy hoff o ddŵr, gallwch gael eich hwyl yn yr Antur Awyr: cwrs rhaffau, dur a phren uchel, sydd uwchlaw’r dŵr gwyn. Bydd plant ac oedolion wrth eu boddau’n ateb heriau Pont Burma, Siglen Mwnci, Cropian trwy Gasgen a’r Weiren Wib.

Dringo i fyny fry

Ffefryn arall gan bobl ifanc sydd ddim am wlychu yw’r Wal Ddringo. Mae hon yn addas i ddechreuwyr ac i ddringwyr bychain profiadol sy’n dalach na 107cm, ac mae wedi ei chreu i ddenu’r mwnci allan ym mhawb! Yr un mor heriol â gwerth chweil, y wal ddringo yw’r dewis delfrydol os yw eich plant wrth eu boddau ag uchelfannau, ac os oes ganddyn nhw domen o egni i’w losgi.

Ac i’r rhai sydd eisiau’r cyfan

Methu â phenderfynu pa weithgaredd byddai’ch plant yn ei fwynhau orau? Dyma’r ateb hawdd i chi - rhowch flas ar bopeth iddyn nhw gyda’r Wythnos Aml-weithgaredd Ieuenctid. Gyda thoreth o gyrsiau llawn antur yn cynnwys y Rafftio Dŵr Gwyn, Canŵio a Chaiacio, Cychod Pâr a Phadlfyrddio yn ogystal â’r Antur Awyr, mae ein hwythnos aml-weithgaredd yn gyfle gwych i roi’r cyfle i’ch plant archwilio’r dŵr a darganfod y gamp maen nhw’n hoffi fwyaf. Wedi’r cwbl, mae gennych chi wythnos gyfan o hanner tymor!

Bwciwch gan ddefnyddio'r dolenni uchod neu ffoniwch ni

Mae parcio am ddim ar gael ar y safle.  Gall fod cyfyngiadau taldra ac oedran yn berthnasol.