ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Cadwch eich plant yn actif gyda’n hwythnos iach o weithgareddau. Ein hwythnos o weithgareddau amrywiol yw’r cyfle perffaith i gyflwyno eich plant i chwaraeon dŵr, neu eu galluogi i wella eu sgiliau mewn amgylchedd tîm hwyl. Mae’r Wythnos Gweithgareddau Amrywiol i Bobl Ifanc yn cynnwys llond lle o gyrsiau:

Rafftio Dŵr Gwyn

Mae’r cwrs Rafftio Dŵr Gwyn yn cynnwys nifer o droeon a llethrau, yn ogystal ac ambell gwymp mwy, sy’n siŵr o gadw sylw’r bobl ifanc wrth iddynt lywio’r tonnau.

Mae’n ffordd wych i’ch plant brofi eu sgiliau padlo, ac yn rhywbeth y dylai pawb roi cynnig arno o leiaf unwaith!

Caiacio â’ch Coesau'n Rhydd

Yn ystod y cwrs hwn bydd plant yn dysgu sut mae deall cyflwr afon a chadw’n ddiogel yn y dŵr, a chânt gyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u technegau padlo ar ddŵr sy’n symud. Dyma’r gweithgaredd perffaith i’r rhai sydd am wella eu padlo a rheoli caiac.

Canŵio

Mae’r cwrs canwio yn ffordd wych arall i blant ddatblygu eu sgiliau padlo craidd ar ddŵr sy’n symud/dŵr agored. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i berffeithio eu techneg badlo gan ddefnyddio ein cyfleusterau chwaraeon padlo arbennig, gan gynnwys pwll dŵr gwastad a chwrs dŵr gwyn o safon Olympaidd.

Bydd ein hyfforddwyr clên a chyfeillgar yn gweithio gyda’r plant i wella eu sgiliau canŵio a rhoi hwb i’w hyder ar y dŵr.

Cychod Pâr ar y Dŵr Gwyn

Mae’r cwrs Cychod Pâr hefyd wedi’i gynnwys yn ein hwythnos o weithgareddau amrywiol. Mae’r caiacau aer dau berson, neu ‘gwn poeth’, yn profi eich sgiliau cyfathrebu ac yn gyffrous iawn hefyd.

Perffaith os ydych am roi profiad newydd i’ch plant ar y dŵr gwyn – byddant yn taclo rhannau heriol o’r cwrs, rhwystrau a llethrau.

Padlfyrddio

Wrth badlfyrddio, sy’n gyfuniad o ganŵio/caiacio a syrffio, bydd eich plant yn cael padl, sy’n debyg i badl canŵ, i symud drwy’r dŵr ar fwrdd mawr. Mae padlfyrddio yn dod yn fwyfwy poblogaidd a gellir ei addasu yn ôl hwyliau’r cyfranogwr, gan ei alluogi i benderfynu ar lefel yr ymdrech a’r math o brofiad mae’n ei gael!

Mae’r cwrs hwn yn ffordd wych i’r plant fwynhau’r dŵr gwastad a chael rhywfaint o ymarfer corff wrth iddynt badlfyrddio o gwmpas Bae Caerdydd. 

Antur Awyr

Mae’r Antur Awyr, sy’n cymryd y plant mas o’r dŵr ac i’r rhaffau uchel, yn siŵr o ddod â’r mwnci mas ohonyn nhw! Mae’n eich herio i fod yn ddewr a dilyn y llwybr fry uwchben y cwrs Dŵr Gwyn.

Nid oes angen unrhyw offer na phrofiad – y cyfan sydd ei angen yw awch am antur. Bydd eich plant yn herio Pont Burma, Siglen y Mwnci, y Gasgen a’r Weiren Wib mewn dim o dro!

 

Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w darllen yma.

 

Dewch â’r canlynol:

 

  1. Tywel
  2. Dillad nofio
  3. Darn £1 ar gyfer y locer 
  4. Pecyn Bwyd

 

Gofynion

 

  1. 8-16 oed 
  2. Hyderus yn y dŵr ac o'i amgylch

 

Amserlen

 

Wythnos Gweithgareddau 5 Diwrnod - Tua 5 Awr y dydd (ni ddarperir cinio)

*Mae’r holl weithgareddau yn dibynnu ar y tywydd

Gwybodaeth Allweddol
Profiad
Dim
Oedran
8 - 16 oed
Hyd y Cwrs
5 diwrnod
Pris
£275 y pen