ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Roeddwn newydd gwpla fy arholiadau Safon Uwch ac yn ceisio osgoi meddwl am y canlyniadau, felly roeddwn yn awyddus i ddod o hyd i rywbeth hwyl i’w wneud ac roedd y gweithgaredd hwn yn edrych yn ddelfrydol. Mae Syrffio Dan Do, sy’n digwydd yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd, yn golygu hwylio’r tonnau ar ben bwrdd.  

Mentrais i’r ganolfan yn llawn cyffro. Wrth gyrraedd, cefais groeso mewn derbynfa olau wedi’i phaentio mewn sawl lliw o las y dŵr. Y tu ôl i mi, drwy bâr o ddrysau gwydr, roeddwn yn barod wedi sylwi ar weithgaredd hwyl yn y dŵr – y cwrs rafftio dŵr gwyn. Roedd tîm o rafftwyr yn bloeddio chwerthin ac yn sgrechian mewn ofn. A dweud y gwir, yn syth bin roeddwn am redeg, dringo’r ffens, deifio fel dolffin i mewn i’r rafft ac ymuno â nhw, ond rhywsut, llwyddais i angori fy hun i’r dderbynfa. Ar ôl siarad â derbynnydd hoffus, llenwais ffurflen ddiogelwch (diogelwch yn gyntaf bob tro!) cyn mynd allan i’r iard rafftio – man cyfarfod syrffwyr dan do.

Cawsom ein harwain i’r man casglu siwtiau gwlyb gan Ryan, ein hyfforddwr, ac yna aeth pawb ati mewn gwahanol gyfeiriadau i’r ystafelloedd newid. Gwisgais fy siwt wlyb yn hyderus – un goes, dwy goes, cau’r sip blaen yn dynn ac yn ddiogel. Roeddwn yn barod i fynd... a hynny wnes i . Brasgamais drwy’r coridor gwlyb i’r ardal syrffio dan do, gwthio’r drysau dwbl i’r ochr, cyn mynd i eistedd gyda fy nghyd-syrffwyr.

Gwenodd Ryan, ac edrychodd gweddill y grŵp arnaf, yn gwenu o glust i glust. Doeddwn i ddim yn deall. Pam oedden nhw mor hapus? Oeddwn i wedi gwneud rhywbeth yn anghywir? Yna, sylweddolais fy mod wedi gwisgo fy siwt wlyb y tu ôl ymlaen! Roedd fy sip wedi’i gau yn dynn i fy ngwddf. I fod yn deg, doeddwn i ddim wedi gwisgo’n anghywir ers yn fachgen bach, pan roedd gwisgo dillad yn rhyfeddod i mi. Felly cymrwch drueni drosof... plîs?! Beth bynnag, gydag ychydig o gywilydd, dychwelais drwy’r drysau dwbl, gwisgais yn gyflym (gan sicrhau bod y siwt wlyb y ffordd gywir y tro hwn) ac ymunais unwaith eto â’r grŵp.

Gwyliais fideo byr am ddiogelwch ar sgrin wastad cyn bod Ryan yn ein harwain i gyfeiriad yr hwyl a sbri. Roedd y peiriant efelychu tonnau yn strwythur glas ar oledd, ac yn gyrru ffrydiau o ddŵr gwyn tuag i fyny. Roedd hi’n anodd clywed cyfarwyddiadau Ryan dros sŵn distrych y dŵr. Fodd bynnag, defnyddiodd ystumiau bywiog a dangosodd symudiadau i ni cyn i ni fynd ati i roi cynnig arnynt. Rhoddais enwau i’r symudiadau – y myfyrdod troellog, y rôl gasgen, deif superman a symudiadau rhwydd eraill gallaf eu gwneud heb gwympo oddi ar y bwrdd (o ddifrif...   pam fyddwn i’n dweud celwydd?!)