ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Yn newydd ar gyfer 2020, tiwbio llawn adrenalin i lawr ein dyfroedd gwyllt byd-enwog o safon Olympaidd yng nghanol Bae Caerdydd. Bachwch eich teulu, eich ffrindiau a dewch i ymgymryd â'r her eithaf i lawr y dyfroedd gwyllt.  Nid oes angen unrhyw brofiad dŵr gwyn blaenorol. Bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn dysgu popeth sydd i’w wybod ynglŷn â thiwbio i chi wrth eich cadw'n ddiogel. Mae hyder yn y dŵr yn hanfodol i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau yn sblasio, troelli a nofio. Dewch â digon o egni! Rydym yn addo y bydd hyn yn rhoi'r holl wefr a'r cyffro sydd eu hangen arnoch i'ch cadw'n gwenu am wythnosau!

Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.

 

Beth sydd ei angen arnoch

  1. Tywel
  2. Dillad nofio
  3. Darn £1 ar gyfer y locer

Gofynion

  •  Hyderus yn y dŵr ac o'i amgylch
  •  14+ oed

Amserlen

Sesiwn 2 awr, gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch

Gwybodaeth Allweddol
PRIS
£65 y pen
AMSER Y SESIWN
Tua 2 awr
OEDRAN
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 14 oed neu'n hŷn
OFFER
Darperir yr holl hyfforddiant ac offer arbenigol