ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Cerdded Ceunentydd yn ne Cymru hardd

Mae ein profiad cerdded ceunentydd de Cymru yn weithgaredd cyffrous oddi ar y safle yng Nghwm Nedd hyfryd, sy’n cynnwys sgrialu i fyny ac i lawr llwybrau afonydd a nentydd.   Ymhen dim, byddwch yn troedio ceunentydd dyfnion ac yn neidio i blymbyllau.

Mae cerdded ceunentydd yn weithgaredd grŵp poblogaidd ar gyfer penwythnosau cyn priodas yng Nghaerdydd, sy’n cynnig cyfle gwych i wneud ymarfer corff heriol a chyffrous.  Mae’n ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau grŵp ysgolion a cholegau yn ogystal â diwrnodau corfforaethol adeiladu tîm.

Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.

 

Beth sydd ei angen arnoch

 

  1. Llian
  2. Dillad nofio
  3. Hen esgidiau rhedeg

 

Gofynion

 

  1. 8 oed a hŷn
  2. Hyderus yn y dŵr ac o'i amgylch

 

Amserlen

 

Cwrdd ger Craig Dinas - Sesiwn oddeutu 4 awr - gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch

Gwybodaeth Allweddol
Pris
£40 yr pen
AMSER Y SESIWN
Tua 4 awr (heb gynnwys amser teithio)
Oedran
Tua 4 awr (heb gynnwys amser teithio)
Offer
Darperir yr holl hyfforddiant ac offer arbenigol