ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Newydd ar gyfer 2020, tiwbio gwefreiddiol ar y dŵr gwyn. Mae hyn yn hwyl i’r teulu cyfan, y plant a’r plant hŷn, ie, chi rieni, hefyd! Gadewch i’n arweinwyr cymwys eich dysgu sut i aros yn ddiogel lawr y dŵr gwyn yn y tiwb neu allan ohono. Does dim angen profiad blaenorol, dim ond gwên fawr a bod yn hyderus yn y dŵr. Mae’n hanfodol gallu nofio er mwyn i chi fwynhau tiwbio lawr y dŵr gwyn. Rydyn ni’n addo y bydd hwn yn un o’r pethau gorau a wnewch chi eleni!

Drwy fwrw ymlaen i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w gweld yma.

 

Beth sydd ei angen arnoch

 

  1. Llian
  2. Dillad nofio
  3. Darn £1 ar gyfer y locer

 

Gofynion

 

  1. Hyderus yn y dŵr ac o'i amgylch
  2. 10+ oed

 

Amserlen

 

Sesiwn 2 awr, gan gynnwys gwisgo’r dillad a’r offer addas, a chael brîff diogelwch


-

Gwybodaeth Allweddol
PRIS
£35 y pen
AMSER Y SESIWN
Tua 2 awr
OEDRAN
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 10 oed neu'n hŷn
OFFER
Darperir yr holl hyfforddiant ac offer arbenigol