ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ffeindiwch eich mwnci mewnol (neu heriwch eich mwncis bach!) a choncro rhaffau uchel yr Antur Awyr. Os byddwch chi’n dewis dringo i uchelfannau’r dirwedd dur a phren eich hun, neu brynu’r profiad yn anrheg i rywun arall – mae’r cwrs hwn yn taflu ei gysgod dros gwrs dŵr gwyn DGRhC a bydd yn siŵr o greu argraff!

Trechwch rwystrau llawn hwyl gan gynnwys Pont Burma, y Siglen Fwnci, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib.

Nid oes angen offer na phrofiad arnoch, dim ond yr awydd am antur a hwyl! Rhaid i chi fod o leiaf 132cm o daldra (neu 107cm yng nghwmni oedolyn, 2 blentyn ar y mwyaf i bob oedolyn) ac nid trymach na 18 stôn. Rhaid i gyfranogwyr y gweithgaredd hwn fod yn 6 oed neu'n hŷn.

Mae pob sesiwn yn cynnwys un tro llawn o gwmpas y cwrs Antur Awyr a’r gost yw £12 y pen.  

Drwy fynd ymlaen i archebu a thalu am y sesiwn hon, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd ar gael yma.

 

Beth sydd ei angen arnoch

 

  1. Dillad addas (dim esgidiau rhydd e.e. fflip-fflops)

 

Gofynion

 

  1. Taldra isaf - 107cm gydag oedolyn neu 132cm heb oedolyn
  2. Pwysau uchaf - 18 stôn (115kg)

 

Amserlen

 

1 tro o fwmpas y cwrs Rhaffau Uchel. BYDD HYD Y SESIWN YN AMRYWIO YN DIBYNNU AR YR AMSER A GYMERIR I GWBLHAU'R CWRS

Gwybodaeth Allweddol
Pris
£12 y pen
Pwysau uchaf
18 stôn
Taldra Isaf
132cm (107cm yng nghwmni oedolyn ar y sesiwn, 2 blentyn ar y mwyaf i bob oedolyn)
Isafswm Oedran
Rhaid i gyfranogwyr y gweithgaredd hwn fod yn 6 oed neu'n hŷn.