ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ffeindiwch eich mwnci mewnol (neu heriwch eich mwncis bach!) a choncro rhaffau uchel yr Antur Awyr. Os byddwch chi’n dewis dringo i uchelfannau’r dirwedd ddur a phren eich hun, neu’n prynu’r profiad yn anrheg i rywun arall – mae’r cwrs hwn yn taflu ei gysgod dros gwrs dŵr gwyn DGRhC a bydd yn siŵr o greu argraff!

Trechwch rwystrau llawn hwyl gan gynnwys Pont Burma, y Siglen Fwnci, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib.

Cyrhaeddwch frig ein wal ddringo gyffrous. Bydd yr amryw linellau a lefelau anhawster yn ymarfer eich ystwythder. Drwy weithio fel tîm byddwch yn siŵr o gyrraedd y brig!

Nid oes angen unrhyw offer na phrofiad, y cyfan sydd angen i chi ddod gyda chi yw ysbryd anturus a chwant hwyl! Mae cyfyngiadau taldra a phwysau'n cyfyngu'r gweithgaredd hwn i daldra isaf o 132cm (ond gall plant 107cm a thalach gymryd rhan os byddant yng nghwmni oedolyn, uchafswm o 2 blentyn fesul oedolyn), a phwysau uchaf o 18 stôn. Rhaid i gyfranogwyr yn y gweithgaredd hwn fod yn 6 oed neu'n hŷn.

Mae pob sesiwn yn cynnwys un cylch llawn o'r cwrs Antur Awyr ynghyd â thuag 1 awr ar y wal ddringo ac mae'n costio £20 y pen (ar ôl i'r holl gyfranogwyr gwblhau eu lap antur awyr byddant yn mynd draw at y wal ddringo).

Drwy barhau i drefnu’r sesiwn hon a thalu amdani, rydych chi’n cytuno â'n 'Telerau ac Amodau Hyfforddiant DGRhC' sydd i’w darllen yma

Gofynion

  1. Taldra isaf - 107cm gydag oedolyn (2 blentyn fesul oedolyn) neu 132cm heb oedolyn.
  2. Isafswm oedran - 6 oed
  3. Pwysau uchaf - 18 stôn (115kg)

Beth i ddod gyda chi

  1. Dillad addas (dim esgidiau rhydd e.e. fflip-fflops)
  2. Os dewiswch chi wisgo siorts - gwnewch yn siŵr eu bod yn cyrraedd y pen-glin fel nad yw ein harnais yn anghyfforddus.

Amserlen

1 Cylch o’r cwrs Rhaffau Uchel a thuag 1 awr ar y wal ddringo. BYDD HYD Y SESIWN YN AMRYWIO YN DIBYNNU AR YR AMSER A GYMERIR GAN GYFRANOGWR I GWBLHAU'R CYLCH.

Gwybodaeth Allweddol
Pris
£20 y pen
Pwysau uchaf
18 stôn
Taldra Isaf
132cm (107cm yng nghwmni oedolyn ar y sesiwn, 2 blentyn ar y mwyaf i bob oedolyn)
Isafswm Oedran
Rhaid i gyfranogwyr y gweithgaredd hwn fod yn 6 oed neu'n hŷn.