ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Gweithdy Tywyswyr Rafftio’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer pobl sydd eisiau bod yn Dywyswyr Rafftio. Prif ddiben y cwrs yw datblygu sgiliau craidd ac ennill gwybodaeth i’ch paratoi ar gyfer gyrfa fe tywysydd llwyddiannus.  

 

Caiff y pynciau canlynol eu cynnwys:

Sgiliau Corfforol - Technegau rafftio, hyfforddi a rheoli criw, technegau argyfwng a gwaith achub.

Gwybodaeth Ddamcaniaethol ac Ymarferol - Cyfarpar (mathau a defnydd), gweithdrefnau diogelwch ac argyfwng, hydroleg yr afon, arweinyddiaeth ac arwyddion.

 

GOFYNION CYN Y CWRS

Hyfforddiant:

  • 16 oed neu’n hŷn 
  • Gallu nofio

Asesu: 

  • Llyfr log 
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf 2 ddiwrnod dilys 
  • 18 oed neu’n hŷn 

 

HYD Y CWRS

Hyfforddiant: 2 ddiwrnod (09:00 - 17:00)

Asesu: Ar gael ar gais.

 

PRIS

Hyfforddiant: £180 y pen

Asesu: Ar gael ar gais

Ddim yn cynnwys ffi’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol ar gyfer cymhwyso Tywyswyr, USD$40, Arweinydd Teithiau USD$70, Hyfforddwyr USD$130.

Mae’r holl ddyfarniadau gan y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol yn ddilys am dair blynedd pan gânt eu cefnogi gan dystysgrif cymorth cyntaf ddilys.

 

Gweithdy 5 diwrnod ar gyfer Tywyswyr Rafftio a WRT-PRO y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol

Mae'r gweithdy pum diwrnod yn addas i'r rhai sydd am ddod yn dywyswyr rafftio dŵr gwyn neu'r rhai sydd am gymryd cam nesaf cymhwyster y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys dyfarniad diogelwch 3 WRT-PRO ar gyfer achub a gydnabyddir yn rhyngwladol.  

Yn ystod y cwrs byddwn yn ymdrin â phob maes tywys gyda'r posibilrwydd o asesiad y Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol yn dibynnu ar eich lefel a'ch profiad llyfr log.  

Mae'r gost yn cynnwys yr holl ffioedd ardystio achub 3, ond nid yw'n cynnwys ffi ardystio’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol o USD$40.

 

Pris

£390 - Nid yw’n cynnwys ffi’r Ffederasiwn Rafftio Rhyngwladol ar gyfer cymhwyso Tywyswyr, USD$40

Yn ogystal â Gweithdy'r Tywyswyr Rafftio, gellir gweld gwybodaeth am y cwrs WRT-Pro yn Technegydd Achub Whitewater - Cwrs Hyfforddi Proffesiynol (WRT-PRO) | Caerdydd - De Cymru (ciww.com)

Gwybodaeth Allweddol
RHESYMAU DROS DDEWIS DGRHC?
Mae gennym gyfleuster gwych ar y safle, gyda mynediad hawdd at afonydd ar gyfer ein cyrsiau i gyd. Dim offer/dillad gennych neu eisiau rhoi cynnig ar ddillad/offer newydd ar yr afon? Mae gennym beth o’r dillad/offer diweddaraf ar y farchnad i chi roi cynnig arnynt.
DYDDIADAU YMA DDIM YN GWEITHIO I CHI?
Gallwn gynnig cyrsiau pwrpasol i gyfateb i’ch amserlen a’ch lleoliad. (Efallai y bydd angen isafswm niferoedd).