ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Blog Gŵyl Badlo 2024

Mae Gŵyl Badlo DGRhC yn ôl ar gyfer 2024 ac yn dilyn y glaw dros y 2 Ŵyl Badlo ddiwethaf yn 2022 a 2023, rydym wedi cyflwyno’n harcheb yn gynnar y tro hwn, ac mae’n mynd i fod yn grasboeth! Ond hyd yn oed os daw’r glaw eto dros ŵyl banc mis Mai, wnawn ni ddim danto. Mae gennym gynllun crand ar y gweill, gan gynnwys cerddoriaeth fyw o'r Lolfa Fyw swyddogol, bwyd lleol ym Mhantri’r Ffermwyr a choffi o CoffeePass. O, fe wnaethon ni bron anghofio sôn am y padlo... wps... bydd Darbi’r Hwyaid yn dychwelyd ar gyfer 2024 ynghyd â'ch holl hoff gystadlaethau padlo trwy gydol y dydd. Bydd Gŵyl Badlo eleni hefyd yn cynnwys y Pencampwriaethau Cwrs Caiacio Cymru cyntaf erioed (digwyddiad a fydd yn gwneud ei ymddangosiad Olympaidd cyntaf ym Mharis eleni!) ochr yn ochr â rasys Padlfyrddio Prydain Fawr a Slalom Canŵio Prydain Fawr.

Ydych chi'n dod i wylio? Rydyn ni wedi trefnu sesiynau y gallwch chi gadw lle arnynt yn ystod y dydd! Gallwch gadw lle ar ein sesiynau Ton Dan Do, Antur Awyr a Chyflwyniad i Badlfyrddio ar y diwrnod os ydych chi’n ysu am gymryd rhan. Bydd y dŵr gwyn yn llifo drwy'r penwythnos, ond mae cymaint mwy hefyd!

Bwyd a Diod drwy'r Dydd

Gyda choffi artisan ffres i ddechrau eich diwrnod o’r eiliad y mae’r drysau’n agor, bydd yna hefyd stondinau bwyd yn gweini brecwast, cinio a swper drwy'r dydd. Bydd Bar ar agor i'r rhai nad ydynt yn padlo neu ar ôl i chi orffen. Mae ein balconi yn cynnig golygfa wych o’n cwrs dŵr gwyn neu dewch â phicnic a blanced gyda chi a bachu lle ar y glaswellt i wylio'r cyffro drwy'r dydd.

DJ a CHERDDORIAETH FYW drwy’r dydd

Bydd y tiwns sy’n sbarduno’r cyffro’n cael eu darparu gan DJ DGRhC gyda setiau byw gan Live Lounge Caerdydd yn gosod y naws drwy'r dydd.

Stondinau masnach a chychod demo

Rydym wedi ymuno â rhai o frandiau mwyaf blaenllaw'r dŵr gwyn gan gynnwys Dagger, Pyranha a Waka i arddangos pentyrrau o gaiacau gwych trwy'r dydd. Bydd yna hefyd lwyth o stondinau masnach eraill gyda thimau o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth addas, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi - felly dewch draw, porwch drwy’r stondinau a chael ambell i sgwrs.

Caiacio Parcio a Chwarae

Yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl Badlo, byddwn yn rhyddhau pob un o’r lefelau dŵr gwyn yn ystod y dydd, gan ddechrau gyda 4 a 6 chiwmec ar gyfer sesiynau'r bore gan symud i 8 ciwmec ar gyfer sesiwn y prynhawn. Ac yna’r Cwrs Caiacio, wrth gwrs, ar 10 ciwmec…

Sesiwn Parcio a Chwarae Arbennig

Ynghyd â disgownt ar barcio a chwarae, rydym hefyd yn cynnig sesiynau CAIACIO YN UNIG lle NA FYDD UNRHYW RAFFTIAU ar rannau o’r cwrs yn ystod y dydd, gan gynnwys BORE DI-RAFFT! (Gweler y poster am yr union amseroedd!)

Padlo am y tro cyntaf?

Mae gennym gyfleoedd i chi gymryd rhan, o wersi Rafftio Dŵr Gwyn i’r Don Dan Do a Chyflwyniad i Badlfyrddio. Ddim awydd gwlychu? Beth am herio'ch hun i roi cynnig ar ein Hantur Awyr sy'n mynd â chi ar ras wyllt uwchben yr holl badlwyr islaw! Gallwch archebu gweithgareddau ymlaen llaw drwy ein gwefan neu gallwch archebu lle ar y dydd, ond pan fydd yr holl lefydd wedi mynd, dyna ni, sori!

Cystadlaethau a Rasys

Cwrs Caiacio - Darbi’r Hwyaid - Dull Rhydd

Gall pawb o bob gallu gofrestru ar gyfer pob ras a chystadleuaeth ar y dydd o 11am. Ar ôl llwyddiant y llynedd byddwn yn cynnal cystadlaethau dull rhydd a darbi’r hwyaid ar 6 chiwmec ac 8 ciwmec i ddechreuwyr a phobl o allu canolig, yn ogystal ag 8/10 ar gyfer y cynghreiriau uwch hefyd! Ddim yn siŵr beth mae pob cystadleuaeth yn ei gynnwys? Ewch i'r stondin gofrestru ger y bwth DJ a byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth i chi! Gall gwylio fod yr un mor wych â chystadlu!

RAS PADLFYRDDIO PRYDAIN FAWR

Mae tymor Rasys Pellter Padlfyrddio Cenedlaethol 2024 wedi cyrraedd. Mae gan y digwyddiad epig hwn 2 ras, y ras Elît 10km a'r Her 6km (cap amser 4 awr) - mae rhywbeth at ddant pawb. Felly os ydych chi'n mwynhau Padlfyrddio ac eisiau rhoi cynnig ar rasio dyma'r cyfle perffaith.

I gofrestru, ewch i gbsup.co.uk

 

Dydd Llun 2 Mai - SLALOM Canŵio’r Uwchgynghrair/Dechreuwyr

Dewch i wylio rhai o'r caiacwyr gorau yn y DU a thîm perfformio Cymru yn brwydro i ddod yn Bencampwr Slalom Bae Caerdydd 2024. Awydd rhoi cynnig ar slalom canŵio am y tro cyntaf? Mae’r clwb canŵio slalom Seren Dŵr yn cynnal ras slalom canŵ i ddechreuwyr ar y llyn gyda hyfforddiant ac offer llawn ar gael ynghyd â’r cyfle i gymryd rhan mewn ras. Ar gyfer y ras i ddechreuwyr, ewch i'r babell gofrestru fore Llun.

Parcio

Bydd y pentref chwaraeon rhyngwladol yn fwrlwm o gyffro dros benwythnos gŵyl y banc.  Rydym wedi agor meysydd parcio ychwanegol ar gyfer yr achlysur a byddwn yn trawsnewid y 'Man Gollwng' yn barc cychod am y diwrnod. Mae parcio am ddim ar gael mewn maes parcio mawr wrth ymyl DGRhC neu gyferbyn ag Arena Iâ Cymru. Mae cyfleusterau parcio ychwanegol y tu ôl i'r llawr sglefrio a'r pwll nofio hefyd.

Felly, beth am wneud penwythnos ohoni?

Dim ond 25 munud o'r arfordir ydyn ni - dewch â’ch plant a'ch cit a gwnewch benwythnos gŵyl y banc ohoni! Gyda digon o lefydd i aros yng nghyffiniau Caerdydd, dewch i adnabod yr arfordir anhygoel tra’ch bod yn aros yn Ne Cymru!