ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Os ydych yn hoff o’r dŵr gwyn ac yn chwilio am her newydd, rydym yn argymell ein Cwrs Caiacio Aer. Mae’r caiacau aer dau berson rydym yn eu defnyddio yn DGRhC wedi eu llysenwi’n gychod ‘cŵn poeth’ (a dyma felly enw’r cwrs), ac maen nhw’n prysur ddod yn ffordd newydd boblogaidd o gael gwefr ar y dŵr gwyn.

Os ydych chi'n newydd i'r gamp, efallai y byddwch am ddysgu ychydig yn fwy cyn i chi fentro ar eich antur nesaf. Isod, rydym wedi casglu ein cynghorion ynghylch Caiacio Aer ar gyfer dechreuwyr:

Beth yw caiac aer?

Mae caiacau aer wedi datblygu’n sylweddol ers iddyn nhw gael eu cyflwyno i’r byd chwaraeon dŵr gyntaf. Mae gan gaiacau aer yr un dyluniad â’r rhai cragen galed cyfatebol; yr unig wahaniaeth yw y gwneir caiacau aer gan ddefnyddio ffabrig wedi’i wehyddu a’i orchuddio â rwber neu PVC.

Erbyn hyn, mae’r cychod padlo main hynny’n debyg i gaiacau traddodiadol o ran cadernid a’r nodweddion llywio, a chan eu bod yn gyflym ac yn hawdd eu llywio, maen nhw wedi dod yn ddewis poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr. Mantais ychwanegol i gaiacau aer yw'r ffaith eu bod yn ffitio'n hawdd mewn sach gefn, fel y gallwch deithio yn unrhyw le gyda'ch cwch padlo dibynadwy.

A yw Caiacio Aer yn ddiogel?

Yn groes i'r hyn y mae llawer o bobl yn ei feddwl, mae caiacau aer yn ddiogel iawn. Mae'r risg o gael twll yn isel, yn enwedig os cymerir gofal priodol o'r cwch padlo. Oherwydd y tair siambr aer ar wahân sy'n ffurfio pob caiac aer, mae padlwyr yn cael eu diogelu rhag perygl difrifol. Wedi'r cyfan, hyd yn oed os yw un o'r siambrau yn gollwng, bydd y ddau sy'n weddill yn fwy na digon i gadw'r cwch yn arnofio nes i chi fynd yn ddiogel i'r lan.

Y cyfan sydd ei angen i gadw'n ddiogel wrth lywio caiac aer yw rhywfaint o synnwyr cyffredin. A hwythau’n sefydlog ac yn hawdd eu symud, ni ddylai caiacau aer achosi unrhyw drafferth ar y dŵr. O ddweud hynny, rydym yn argymell na ddylech chi fynd â'ch cwch padlo i ddŵr gwyn oni bai ei fod yn addas i'r pwrpas, a’ch bod chi’ gwisgo offer arnofio personol (PFD) pryd bynnag yr ewch i badlo.

Yn ogystal, dylech chi bob amser wirio rhagolygon y tywydd ac amserau'r llanw cyn mynd i gaiacio aer i sicrhau nad ydych yn cael eich dal mewn gwyntoedd cryfion neu'n cael eich cario i ffwrdd gan gerhyntau na ellir eu rhagweld. Oni bai eich bod yn mynd allan ar gwrs caiacio aer swyddogol, rydym hefyd yn awgrymu hysbysu rhywun o’ch llwybr a phryd rydych yn bwriadu dychwelyd.

Mathau o gaiac aer

Y math mwyaf cyffredin o gaiac aer yw'r caiac aer hamdden. Nid oes angen unrhyw brofiad padlo i’w ddefnyddio, ac mae'n berffaith i’w fwynhau’n hamddenol ar ddŵr gwastad. Y math hwn o gaiac aer yw'r un mwyaf sefydlog oherwydd ei led sylweddol, sy'n ei wneud yn ddewis perffaith i ddechreuwyr. Hefyd, mae'r dechneg padlo sydd ei hangen i lywio'r cwch padlo hwn yn syml i'w dysgu.

Ond mae yna hefyd fathau eraill, mwy arbenigol o gaiacau aer, megis:

Caiac aer ar gyfer pysgota

Un hobi annisgwyl y mae’r caiacau aer yn ddelfrydol amdano yw pysgota. Nid oes angen i bysgotwyr fynd yn bell, sy'n golygu bod caiac aer yn ateb cwbl addas ar gyfer eu hanghenion teithio dŵr. Gyda chychod fel arfer yn cael eu angori yn yr un lle am gyfnodau estynedig o amser, mae caiacau aer yn ddewis amgen perffaith i gychod pysgota mewn ardaloedd dŵr gwastad lle gwaherddir cychod modur.

Yn ogystal, mae caiacau aer yn fwy fforddiadwy na chychod, a gellir eu cludo'n hawdd i leoliadau anghysbell na fyddech yn gallu cael mynediad iddynt ar gwch maint llawn. Fel y crybwyllwyd uchod, mae caiacau aer hefyd yn fach iawn wedi’u dadchwyddo, ac oherwydd y deunyddiau maen nhw wedi’u gwneud ohonynt, mae’n hawdd eu glanhau a’u sychu.

Mewn theori, gallwch fynd i bysgota mewn unrhyw gaiac aer. Ond os ydych chi'n dymuno gwneud y caiac yn fwy pwrpasol, gallwch fuddsoddi mewn caiac aer sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion pysgotwyr, gydag atgyfnerthiadau ychwanegol a nodweddion arbennig.

Caiac aer teithiol

I'r padlwyr brwd, mae'r opsiwn hefyd o grwydro'r dyfroedd mewn caiac aer teithiol. Wedi’i greu’n bwrpasol ar gyfer mynd yn bell ar afonydd a llynnoedd, mae'r caiacau aer hyn yn hirach ac yn gyflymach. Gallwch fod yn siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r caiacau aer teithiol yn dal yn ddigon llydan i'ch cadw'n sefydlog ar y dŵr a gadael digon o le i chi storio eich bagiau.

Caiac aer ar gyfer y môr a'r cefnfor

Mae caiacau aer ar gyfer y môr (neu hyd yn oed y cefnfor) yn cael eu dosbarthu o dan gaiacau teithiol hefyd. Mae amlinelliad cul nodweddiadol y caiacau aer hyn yn eu gwneud yn berffaith addas ar gyfer gwrthsefyll y tonnau a’r gwyntoedd cryf ar y môr. Yn ogystal, mae'r caiacau aer hirach ar gyfer y cefnfor yn cyrraedd cyflymder anhygoel ar y dŵr.

Caiac aer dŵr gwyn

Mae gan gaiacau aer a ddyluniwyd ar gyfer dŵr gwyn siâp adnabyddadwy iawn. Yn fyrrach ac yn ehangach na chaiacau aer traddodiadol, mae'r cychod padlo hyn wedi'u teilwra i roi'r sefydlogrwydd mwyaf posibl ac yn galluogi padlwyr i lywio'r dyfroedd gwyllt yn hawdd. Gyda chyflymder yn ildio i lywio gwych, mae angen techneg badlo benodol ar gyfer caiacau aer ar ddŵr gwyn, felly rydym yn argymell dechrau gyda chyrsiau pwrpasol cyn rhoi cynnig arni ar eich pen eich hun.

Sgiliau caiacio hanfodol

Mewn gwirionedd, hyd yn oed os nad ydych chi'n mynd yn syth i’r dŵr gwyn ar gyfer caiacio cychod aer rhydd, gall datblygu rhai sgiliau mewn amgylchedd diogel wneud byd o wahaniaeth. Yma yn DGRhC rydym yn cynnig Cyrsiau caiacio cychod aer, a fydd yn dysgu'r technegau padlo cywir i chi ac yn rhoi'r holl sgiliau caiacio angenrheidiol i chi er mwyn llywio'r dyfroedd gwyllt yn ddidrafferth.

Mynd i mewn i gaiac aer

Mae mynd i mewn i gaiac aer yn sgìl arbennig iawn sy'n haeddu adran benodol. Mae sawl gwahanol ffordd o fynd i mewn ac allan o’ch caiac aer - rydym yn argymell i chi eu harbrofi’r tu allan i’r dŵr yn gyntaf.

Yn ffodus, mae caiacau aer yn sefydlog iawn, sy'n eu gwneud yn hygyrch i bob oedran a gallu, yn enwedig os ydych chi'n mynd i mewn iddynt o'r lan. Mae’n bendant yn ddefnyddio os yw cyd-badlwr gyda chi ar gyfer mynd i mewn i gaiac aer o ddoc, gan y gall y person hwnnw ei gadw yn ei le’n hawdd i chi. Mae neidio yn ôl i mewn yn anoddach os ydych eisoes yn y dŵr, ac mae'n aml yn gofyn am rywfaint o lusgo anurddasol, ond gyda pheth ymarfer byddwch yn llwyddo!

Ar ôl i chi deimlo'n hyderus yn eich techneg, ewch â'ch caiac aer i lan afon neu lyn ac ymarfer, yna gwnewch eich ffordd i mewn i ddyfroedd llonydd a rhoi cynnig ar fynd i mewn yno, fel y byddwch yn barod os bydd argyfwng. 

Beth dylwn i ei wisgo wrth gaiacio?

Y peth allweddol i'w gofio wrth ddewis beth i wisgo wrth gaiacio yw y byddwch yn gwbl agored i'r tywydd. Rydym yn argymell cynllunio ymlaen llaw ac ystyried eich amgylchedd. Hefyd, peidiwch ag anghofio cyfrif am y ffaith bod chwaraeon dŵr yn aml yn arwain at sblasio – dewch â thywel a bag sych bob tro!

Mewn gwirionedd, mae bagiau sych yn hanfodol ar gyfer caiacio cychod aer. Mae bagiau sych, fel yr awgryma’r enw, yn wych ar gyfer cadw eich newid dillad a’ch pethau gwerthfawr yn sych. Maen nhw’n fforddiadwy iawn ac yn hynod o boblogaidd gyda phadlwyr. Gallwch glymu un o'r rhain i'ch caiac, a'ch sicrhau bod eich eiddo'n ddiogel, gan eu bod wedi'u cynllunio i arnofio rhag ofn i'ch caiac aer droi.

Eitem hanfodol arall ar gyfer y caiacwyr brwd yw pâr o fenig padlo caiac. Wedi'u dylunio wrth ystyried cysur, bydd y menig hyn yn cadw eich bysedd rhag rhuglo wrth i chi badlo, gan eich galluogi i fynd am deithiau hirach ar hyd y dŵr heb orfod dioddef pothelli.

Ychydig yn fwy anghonfensiynol ond yr un mor hanfodol yw gwisgo eli haul a chynnyrch ymlid pryfed. Bydd yn anodd iawn treulio cyfnod estynedig o amser ar y dŵr heb ddod ar draws bwystfilod bach neu orfod ymdopi â heulwen ddidostur.

Mae dod â bwyd a diod ar eich anturiaethau caiacio aer hefyd yn syniad da. Mae'n gallu bod yn heriol, yn enwedig os ydych chi'n chwilio am ddyfroedd gwyllt cyflymach. Felly os ydych chi'n mynd allan am y dydd, rydyn ni'n argymell pacio dŵr i’w yfed ac ychydig o fariau protein i'ch helpu i adfer eich egni.

Caiac aer yn erbyn caiac cragen galed (arferol)

Fel arbenigwyr chwaraeon dŵr, byddwn yn cael cwestiynau’n aml o ran p’un sy'n well – caiac aer neu un caled. Y gwir yw, mae’r ddau fath yn wych, ac mae'r un rydych chi'n mwynhau mwy yn dibynnu ar eich dewisiadau padlo.

Mae caiacau cragen galed yn dal yn fwy cadarn o ran perfformiad a gwydnwch, felly os oes gennych chi ddigon o arian i brynu un, y cyfleusterau i'w chludo a'r ystafell i'w storio gartref, dylech yn bendant ystyried buddsoddi yn y peth go iawn.

Mae caiacau aer yn gyfleus iawn os ydych yn hoffi teithio’n ysgafn ac eisiau mynd â'ch cwch padlo gyda chi heb drafferth ychwanegol. Mae buddsoddi mewn caiac aer yn arbed lle storio i chi, ac yn caniatáu mwy o ryddid i chi symud, gan nad ydych chi (neu eich caiac) wedi'ch clymu wrth gar.

Dysgwch fwy am Caiacio Aer.