Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru rydym wedi cau dros dro. Os ydych wedi trefnu archeb gyda ni yn y dyfodol agos byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau amgen. Mae ein talebau yn dal i fod ar gael ar-lein https://www.dgrhc.com/talebau-anrheg/ ac yn ddilys am gyfnod estynedig. Mae modd cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar info@ciww.com. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol @cardiffintww
Heriwch y dyfroedd a phrofwch wefr ein cwrs dŵr gwyn cyffrous! P'un a ydych ar eich pen eich hun neu gyda grŵp mawr o ffrindiau dewch i roi cynnig ar y gweithgaredd mwyaf poblogaidd a chymdeithasol o blith ein chwaraeon dŵr. Hyd at 6 o bobl mewn un rafft.
Yn ddilys am 18 mis o'r dyddiad prynu.
Ni ellir cynnig ad-daliad na chyfnewid tocynnau am ddyddiadau eraill ar ôl eu harchebu.
1 tocyn fesul person, i'w gyfnewid am un sesiwn.
Gallwch gadw lle o flaen llaw trwy ffonio 029 2082 9970 a dweud rhif y tocyn.
Mae cadw lle’n dibynnu ar nifer y lleoedd sydd ar gael.
Bydd yn rhaid cyflwyno allbrint o’r e-docyn ar ddiwrnod y gweithgaredd.
I weld rhagor o Delerau ac Amodau gweithgareddau, ewch i’n gwefan