Rhowch gynnig ar ein peiriant syrffio dan do cyffrous! Yn addas i ddechreuwyr pur a syrffwyr profiadol, bydd yr atyniad hwn yn rhoi cyfle i ymwelwyr syrffio’r dyfroedd yn y Brifddinas! Byddwch yn dechrau drwy reidio’r dŵr ar gorff-fwrdd cyn symud ymlaen i reidio’r tonnau ar eich traed. Ac nid dyna'r cyfan... mae'r ddwy lôn yn golygu y gall grwpiau o ffrindiau a theuluoedd herio'r tonnau gyda'i gilydd!
Yn ddilys am 18 mis o'r dyddiad prynu.
Ni ellir cynnig ad-daliad na chyfnewid tocynnau am ddyddiadau eraill ar ôl eu harchebu.
1 tocyn fesul person, i'w gyfnewid am un sesiwn.
Gallwch gadw lle o flaen llaw trwy ffonio 029 2082 9970 a dweud rhif y tocyn.
Mae cadw lle’n dibynnu ar nifer y lleoedd sydd ar gael.
Bydd yn rhaid cyflwyno allbrint o’r e-docyn ar ddiwrnod y gweithgaredd.
I weld rhagor o Delerau ac Amodau gweithgareddau, ewch i’n gwefan