Rhaid archebu gweithgareddau* ymlaen llaw drwy'r botwm BOOK NOW isod, ni allwn ddarparu ar gyfer archebion galw heibio. *Gall Parcio a Chwaraewyr sy'n mynychu sesiwn heb archebu ymlaen llaw gael eu gwrthod neu godi ffi ychwanegol o £5 y person os na fyddant yn archebu ymlaen llaw ar-lein.
Cynlluniwch barti sy’n wahanol ar gyfer eich anturwyr awyr agored a’u ffrindiau gyda phecynnau arbennig partïon plant y Ganolfan Dŵr Gwyn. Mae’r profiadau parti pen-blwydd ar gyfer plant, sy’n addas ar gyfer pob tywydd ac y gallwch eu haddasu yn ôl eich dewis, yn sicr o fod yn rhai bythgofiadwy!
Cewch ddewis rhwng y gweithgareddau canlynol neu greu pecyn parti unigryw gan roi eu ffefrynnau at ei gilydd:
Bydd ein sesiwn Rafftio Dŵr Gwyn yn mynd â’r plantos sy’n chwilio am antur ar daith wyllt, wrth iddyn nhw lywio drwy’r troeon, y troadau a’r cwympiadau mawr, sy’n siŵr o godi cyffro.
Gadewch eich plant i hwylio’r tonau a rhoi eu sgiliau padlo ar waith gyda’r chwaraeon dŵr cyffrous hyn y mae’n rhaid rhoi cynnig arnyn nhw! Rydym yn gostwng lefel y dŵr gwyn ar gyfer ein partïon Rafftio Dŵr Gwyn i blant fel y gall pawb fwynhau’r profiad. Gall 6 phlentyn ffitio ym mhob cwch gyda’r arweinydd hyfforddedig, a fydd yn arwain y grŵp dros y tonau – felly os nad ydych chi eisiau ymuno â nhw, does dim rhaid i chi!
Mae Padlfyrddio yn cyfuno rhai o nodweddion mwyaf cyffrous canŵio a syrffio, gan fynd â’ch plant ar y dŵr gwastad ar fwrdd mawr.
Bydd y cwrs, sy’n ffordd wych o gyfuno ymarfer corff â hwyl, yn mynd â’ch plant i badlo tebyg i ddull canŵ o amgylch Bae Caerdydd, gan ddatblygu eu sgiliau yn y gamp ddŵr fwyaf poblogaidd heddiw! Does dim angen profiad padlfyrddio blaenorol, a gallwn deilwra parti padlfyrddio i fod yn addas i bob gallu.
Byddan nhw wrth eu boddau yn corff-fyrddio fesul dau drwy'r tonau am awr gyda’n peiriant tonau Flowrider!Mae’n hwyl i bawb yn y parti, ond gall ffrindiau a theulu wylio hefyd o’n hardal wylio bwrpasol â seddau.
Y nifer ddelfrydol ar gyfer parti Ton Dan Do yw tua 10, i sicrhau bod pawb yn cael eu tro! Y nifer fwyaf o blant a ganiateir yw 12.
Ar gyfer plant sy’n hoffi chwarae mwnci yn hytrach na mynd ar y tonau, bydd yr Antur Awyr, ein cwrs raffau uchel yn cynnig yr her ddelfrydol. Aiff y dirwedd ddur a phren hon, a saif yn uchel dros y cwrs dŵr gwyn, â’ch plant ar daith o hwyl llawn anturiaethau, wrth iddyn nhw ddringo drwy rwystrau Bont Burma, y Siglen Fwncïod, Cropian Mewn Casgen a’r Weiren Wib. Yr Isafswm taldra yw 132cm (107cm os yw’r plentyn yng nghwmni oedolyn yn ystod y sesiwn).
I ddod â’r diwrnod dathlu pen-blwydd i ben mewn ffordd wych, gadewch inni wneud yr holl arlwyo ar ôl iddyn nhw ddod allan o’r dŵr.
Mae ein partneriaid, Just Perfect Catering, sy’n rheoli Bar Caffi a Theras Oriel y Ganolfan Dŵr Gwyn, yn arbenigwyr mewn arlwyo partïon plant, felly fe baratoan nhw’r bwyd parti a’r diodydd wrth ichi ymlacio. Mae’r teras yn ddelfrydol r gyfer eich dathliadau ar ôl y gweithgareddau, gan ei fod ar lawr cyntaf y Ganolfan yn edrych dros y cwrs. Fel arall, bydd ein hystafell barti bwrpasol sy’n gallu gwrthsefyll pob tywydd yn ddewis da ar gyfer diwrnodau oerach.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fwyd poeth ac oer ar gyfer pob cyllideb, a fydd yn cadw eich gwesteion â boliau llanw ac yn hapus! Lawrlwythwch ein taflen parti plant ar gyfer prisiau.
Plan a party with a difference for your outdoorsy offspring and their friends with CIWW’s bespoke children’s party packages.