Yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru rydym wedi cau dros dro. Os ydych wedi trefnu archeb gyda ni yn y dyfodol agos byddwn yn cysylltu â chi i wneud trefniadau amgen. Mae ein talebau yn dal i fod ar gael ar-lein https://www.dgrhc.com/talebau-anrheg/ ac yn ddilys am gyfnod estynedig. Mae modd cysylltu â ni yn ystod oriau swyddfa o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar info@ciww.com. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol @cardiffintww
Cyngor cyffredinol www.llyw.cymru/coronafeirws
Gall pawb helpu i reoli'r feirws os byddwn i gyd yn wyliadwrus. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:
Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd bellach wedi ailagor ar gyfer pob gweithgaredd yn dilyn https://llyw.cymru/chwaraeon-hamdden-canllawiau-ar-gyfer-dychwelyd-yn-raddol-html sy’n berthnasol i bob busnes chwaraeon a hamdden.
Rydym wedi rhoi pob cam angenrheidiol ar waith i ailagor yn gyfrifol ac yn ddiogel, ac wedi newid rhai o'n prosesau i hwyluso hyn. A fyddech gystal â rhoi o’ch amser y ddarllen y wybodaeth hon a gweld sut mae pethau wedi newid:
Sut rydym ni wedi addasu?
Mae gweithdrefnau newydd, llymach o lawer wedi'u rhoi ar waith fel y gallwn ni i gyd fynd yn ôl ar y dŵr yn ddiogel:
Cyfathrebu ac archebu
Rhaid gwneud pob archeb ymlaen llaw drwy e-bost neu dros y ffôn yn unig, gan gynnwys Parcio a Chwarae.
Datganiad iechyd
Os ydych chi, unrhyw un yn eich swigen neu unrhyw un yr ydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw wedi cael symptomau COVID-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, os gwelwch yn dda peidiwch â dod i mewn i'r cyfleuster neu gymryd rhan mewn gweithgaredd.
Hylif diheintio
Rydym yn darparu diheintydd dwylo o amgylch y cyfleuster ac ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn, ond rydym yn eich annog i ddod â'ch hylif eich hun gyda chi.
Cyrraedd wedi paratoi
Rydym yn gofyn i'r holl gwsmeriaid gyrraedd ' YN BAROD I BADLO ' lle bynnag y bo'n bosibl (h.y. gyda'ch dillad nofio o dan y dillad yr ydych yn eu gwisgo pan fyddwch yn cyrraedd y cyfleuster). Mae gwisgo dillad chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ddŵr gwastad yn wych os yw’r tywydd yn braf. Os nad felly yw hi, rydym yn argymell yn gryf y dylech dod â'ch siaced eich hun i’ch gwarchod rhag y gwynt a’r glaw a/neu'ch siwt wlyb eich hun os oes gennych un.
Ar gyfer gweithgareddau dŵr gwyn byddwn ni'n rhoi siwtiau gwlyb i chi, ond os oes gennych chi eich gwisg eich hun, gwisgwch honno (mae’n rhaid i’r wisg gael llewys a choesau hir). Mae ein hystafelloedd newid bellach y tu allan ac wedi'u hawyru'n dda, caiff hyn ei adolygu'n gyson.
Golchi mwy
Mae siwtiau gwlyb bellach yn cael eu socian mewn Hylif Diheintio Milton ar ôl eu defnyddio. Mae’r siwtiau yn cael eu socian am 15 munud erbyn hyn, ac yna’n cael eu rinsio mewn dŵr glân.
Gwahanu amseroedd cyrraedd
Mae amseroedd sesiynau wedi’u strwythuro oherwydd y nifer cyfyngedig o bobl ar y safle ac rydym yn gwahanu’r amseroedd cyrraedd i gyfyngu ar nifer y pobl a geir mewn un man ac i osgoi torri'r rheol ymbellhau cymdeithasol.
Glanhau offer
Rydym yn sgrwbio’r holl badlau a badau gyda hylif glanhau bob tro y cânt eu defnyddio, gan roi sylw arbennig i'r prif bwyntiau cyffwrdd.
Ymbellhau cymdeithasol
Mae ein gweithgareddau yn berffaith ar gyfer ymbellhau'n gymdeithasol ond rydym wedi gwneud rhai newidiadau i helpu gydag ymbellhau. Os oes angen llaw arnoch wrth fynd allan ar sesiwn, mae gennym ddigon o gynghorion a thriciau i gyfyngu'r risg o ddod yn rhy agos at rywun. Byddwn ni bob amser yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n padlo mewn amodau diogel, ac os oes angen ychydig o help arnoch byddwn ni'n defnyddio llinell dynnu i'ch tynnu i fan diogel. Gydag arddangosiadau ac esboniadau gwych, nid ydym yn gweld bod angen torri'r rheol 2m, oni bai bod hynny ar gyfer eich diogelu.
Maint grwpiau
Rydym bellach yn gweithredu ar gymhareb uchaf o 1:10 y sesiwn, gan ddilyn Canllawiau ' COVID-19 ' Diogel. Gallwn dderbyn grwpiau mwy ond a fyddech gystal â cysylltu â ni yn gyntaf i drafod ymbellhau cymdeithasol.
Mynediad
Mae gennym lwybr dynodedig o'r ciw y tu allan, drwy ein hardal archebu a thu allan i gymryd rhan yn y gweithgareddau.
Mae ein toiledau ar agor i gwsmeriaid sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau; Fodd bynnag, rydym yn gweithredu un system lem ar sail un i mewn, un allan. Rydym yn gofalu osgoi cyswllt rhwng staff a chwsmeriaid wrth baratoi a symud offer. Gofynnwn i chi gadw eich dillad yn eich cerbydau yn y maes parcio cyfagos, pan fo’n bosibl. Mae system ar waith ar gyfer cadw allweddi.
Mae gennym nifer cyfyngedig o bobl ar y safle ar unrhyw un adeg ac yn anffodus dim ond 2 wyliwr y gellir eu caniatáu fesul grŵp archebu. Bydd angen enw a manylion cyswllt yr holl wylwyr arnom at ddibenion Dilyn ac Olrhain.