ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ydych chi’n chwilio am Barti Dynion neu Gywennod gwahanol? Dim ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd o ganol dinas Caerdydd, mae gan DGRhC bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer y profiad Dynion neu Gywennod perffaith. Dewiswch o amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, llawn adrenalin, gan gynnwys Rafftio Dŵr Gwyn cyffrous neu sesiwn  Padlfyrddio Sefyll i Fyny  ymlaciol ar y dŵr gwastad. Hefyd, rydym yn cynnig pecynnau ar gyfer Partïon Dynion a Chywennod sy’n cynnwys ein holl weithgareddau tîm, megis Ton Dan Do, Hot Dogio, Byrddio ar yr Afon, Canwio a Caiaco, Rafftio Teuluol a Cherdded Ceunentydd.

Syniadau ar gyfer penwythnos y darpar ŵr

Mae’r parti cyn priodi’n garreg filltir ar lwybr y rhan fwyaf o ddynion tuag at fywyd priod.  Y dyddiau hyn, mae gweithgareddau stag di-ri felly mae’n hawdd cael eich llethu gan y dewis.  Os ydych chi a’ch ffrindiau agosaf am gael profiadau llawn adrenalin rhwng nosweithiau o feddwi’n dwll, mae syniadau gwych yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd ar eich cyfer.

Un o’r prif fanteision o’n dewis ni i drefnu’ch prif weithgareddau ar gyfer eich stag yw y byddwn ni’n ysgwyddo cyfrifoldeb y gwaith cynllunio ar eich rhan.

Dechreuwch eich pecyn parti stag gyda rafftio dŵr gwyn yn gynnar nos Wener.  Bydd hyn yn gyfle i grwpiau gwahanol ddod i ‘nabod ei gilydd ac yn llenwi pawb gydag adrenalin cyn y noson hir gyntaf.

Ddydd Sadwrn gallwch chi fwrw’r blinder ar eich ffordd i ddiwrnod o Gerdded Ceunentydd. Bydd eich dewrder ar brawf a chithau’n wynebu neidiau uchel i byllau plymio.  Bachwch ar y cyfle ‘ma i dynnu coes y stag ac ychwanegu at y casgliad o straeon difyr ar gyfer diwrnod y briodas!

Mantais arall o gynnal y parti stag ar lan y môr yw y bydd cyfle i chi fynd allan yn y dydd a neilltuo digon o amser i orffwys a pharatoi ar gyfer noson arall o yfed a dawnsio tan yr oriau bach.  Gallwn ni hyd yn oed drefnu’r cludiant ar eich cais er hwylustod llawn i chi.  

I ddiweddu penwythnos llawn adrenalin, beth am Ganŵio a Chaiaco, neu weithgaredd mewn lleoliad arall ar y dydd Sul fel Tonnau Dan Do , Taith Awyr neu Ddringo ?

Ac wrth gwrs, beth am y gwisgoedd ffansi?  Wel, y newyddion gwych yw bod modd gwisgo rhan fwyaf y gwisgoedd ffansi dros ein siwtiau dŵr, felly wnewch chi ddim colli’r cyfle euraidd yma i godi mwy byth o gywilydd ar y stag! Yma yng Nghanolfan DGRhC, rydyn ni wedi gweld y cyfan – y gorau a’r gwaethaf – ac rydyn ni wrth ein boddau’n gweld ein partïon stag yn eu gwisgoedd (wedi dweud hynny, dim byd rhy anweddus gan fod ymwelwyr ifanc yn dod i’r ganolfan).

O weithgareddau stag llawn adrenalin fel rafftio dŵr gwyn i opsiynau mwy hamddenol fel sesiynau padlfyrddio ar ddŵr gwastad, mae pecynnau stag pwrpasol y ganolfan DGRhC yn ddewis gwych ar gyfer parti stag Hefyd, dim ond tafliad carreg sydd rhwng ein canolfan a Bae Caerdydd a chanol dinas Caerdydd, felly mae’n hawdd cyrraedd clybiau bywiog y ddinas a’r golygfeydd gwych y ddinas o’r dŵr.

Syniadau penwythnos plu cyffrous

Gwnewch eich parti plu yng Nghaerdydd yn un bythgofiadwy drwy ymbincio, darganfod Cymru a neidio i’r clybiau lleol lu gyda mwy o weithgareddau penwythnos parti plu llawn adrenalin! Trefnwch becyn parti plu pwrpasol ar gyfer y criw gyda Chanolfan DGRhC a mwynhewch gyfuniad difyr o weithgareddau tîm hamddenol.

Dechreuwch y penwythnos gyda gweithgaredd cyffrous i ddod i ‘nabod eich gilydd fel y cwrs Canŵio a Chaiaco yn ein cyfleusterau chwaraeon padl rhagorol gan gynnwys ein cwrs safon Olympaidd dŵr gwyn a phwll dŵr gwastad.  Rydyn ni’n cynnwys cyrsiau ar gyfer pobl o bob gallu gan ein tîm o hyfforddwyr hwylus a chyfeillgar a fydd yn rhoi hwb i’ch hyder ar y dŵr gan adael digon o amser i chi i gyrraedd y dre ac ymuno â’r bywyd nos byrlymus.

Ddydd Sadwrn, gallwch chi adfywio ac ysgafnhau eich diwrnod i’r merched yn y ddinas drwy roi cynnig ar gorff-fyrddio gyda’n Sesiynau Tonnau Dan Do - does dim angen profiad ohono, felly gallwch chi berffeithio’ch technegau ar y jetiau dŵr ar eich pen eich hun neu wrth ochr ffrind heb fecso bod pawb yn edrych ar y traeth.

Fel arall, os yw ymarfer corff caled ar eich rhestr syniadau am barti plu, gallwch gyfuno hyn â gweld Caerdydd o bersbectif newydd sbon o’r dŵr fflat yn ein sesiynau Padlfyrddio. Cyflenwir yr holl offer a’r cyfarwyddiadau, felly bydd merched o bob lefel a gallu yn medru dod i fwynhau ychydig o amser ar y dŵr wrth gymryd rhan yn un o gampau dŵr enwocaf y byd. A chan ein bod ni ddim ond tafliad carreg i ffwrdd o ganol dinas Caerdydd, bydd gennych ddigon o amser i wneud ychydig o siopa cyn noson allan ar y parti plu!

Beth am gloi’r penwythnos plu drwy brofi’ch sgiliau padlo gyda’n Profiad Rafftio Teulu? Bydd yr antur dwy awr hon yn gwneud i chi chwerthin a sgrechian wrth i chi deithio drwy lanw a thrai tonnau DGRhC, a gwlychu ychydig hefyd! Unwaith y byddwch yn ôl ar dir cadarn ac wedi sychu, gallwch dwymo gyda phaned a danteithion blasus yn ein caffi cyn i chi fynd am adref.

Pam fod Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau’r DU ar gyfer partïon stag

Mae Caerdydd yn agos iawn os ydych yn chwilio am benwythnos ger yr arfordir neu’r traeth.

Yn ddinas fywiog yn llawn gweithgareddau cyffrous, mae Caerdydd yn lle perffaith i gael penwythnos plu neu stag. Gan ei bod hi’n hawdd cerdded o amgylch y ddinas, mae’n cynnig cyfuniad perffaith o weithgareddau parti stag cyffrous, tirnodau eiconig a bywyd nos penigamp, felly mae cannoedd o syniadau ar gyfer benwythnos parti plu neu stag yma!

Mae Caerdydd yn ddewis ffantastig os ydych yn awyddus i gael parti plu neu stag ger y traeth gan fod y ddinas yn agos at yr arfordir. Beth am ystyried profiadau actif drwy gerdded ar hyd y glannau neu hyd yn oed ei gwneud hi’n benwythnos dysgu i syrffio!

O ran gweithgareddau parti stag, mae sin bywyd nos Caerdydd dan ei sang gan glybiau, bars ac adloniant hwyr y nos, felly mae popeth yma i sicrhau eich bod chi’n cael penwythnos stag i’w chofio! Mae digonedd o fwytai grêt i chi ddewis ohonynt, felly bydd cyfle i chi leinio’r stumog, waeth a ydych chi’n paratoi at noson o ddawnsio neu’n dioddef o ben mawr y bore wedyn!

Mae chwaraeon yn rhan fawr o hanes a diwylliant Caerdydd, felly gall pobl sy’n dwlu ar gampau ychwanegu ymweliad â’r Stadiwm Principality at y rhestr o syniadau parti stag – ac efallai, os ydych chi’n lwcus, byddwch yn gallu gweld un o’r gemau mawr sy’n digwydd gydol y flwyddyn!

Mae digon o syniadau am benwythnos parti plu cyffrous ym mhrifddinas Cymru hefyd! O baradwys siopa Canolfan Dewi Sant i’r siopau bychan a’r trysorau cudd yn yr arcedau oes Fictoria sydd o amgylch canol y ddinas, mae digonedd o gyfleoedd i chi i wario yng Nghaerdydd!

Beth am brofi ychydig o ddiwylliant yng nghanol gweithgareddau’r parti plu a mynd i weld un (neu amryw) o gestyll Caerdydd, cyn mwynhau’r bwyd blasus sydd ar gael ledled prifddinas Cymru. Gall partïon plu mwy actif ychwanegu unrhyw beth o feicio cwad i saethu clai at eu hamserlenni.

Beth am ddechrau’r noson allan gyda bargeinion diodydd yn un o’r bars ffasiynol, cofrestru ar gyfer ddosbarth meistr coctels ac yfed eich campwaith ar ôl y sesiwn, neu hyd yn oed fynd ar daith cwrw ar y dŵr yn cynnwys barbeciw?! O fanno, gallwch symud ymlaen i un o glybiau nos poblogaidd y ddinas, lle gallwch ddawnsio ac yfed drwy’r nos. Os yw peint tawel yn fwy at eich dant na noson wyllt, mae Caerdydd yn falch o fod â mwy o dafarndai fesul troedfedd sgwâr nag unrhyw le arall ym Mhrydain! 

Llety i Bartïon Plu a Stag yng Nghaerdydd

I sicrhau bod eich penwythnos plu neu stag yn ddiffwdan, gallwch drefnu llety yn ein gwesty partner, Holiday Inn Express, Bae Caerdydd. Dim ond taith gerdded fyr i ffwrdd o’r bwytai a’r bars sydd ar hyd y glannau, a’r un pellter o ganol y ddinas i’r cyfeiriad arall, mae’r gwesty’n cynnig gostyngiad gan 10% i bob gwestai sydd wedi bwcio gweithgaredd gyda ni os ydynt yn crybwyll ‘DGRhC’.

Mae’r gwesty’n cynnig dewis eang o ystafelloedd sy’n addas ar gyfer grwpiau mawr fel partïon plu a stag, sy’n golygu eich bod chi’n siŵr o gael llety cyfforddus heb unrhyw straen! Trefnwch eich llety ar gyfer y penwythnos plu neu stag drwy ffonio 029 2044 9000 neu e-bostio reservations@exhicardiff.co.uk. Dysgwch fwy am y gwesty yn www.exhicardiff.co.uk.