ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ar ôl bod yn gaeth i’r tŷ gyhyd, mae angen gweithgareddau sy'n addas i'r teulu beth bynnag y bo’r tywydd fel y gallwch eu cynllunio ac edrych ymlaen atynt.

Yn newydd ar gyfer haf 2021 

Yng Nghanolfan DGRhC, gwyddom fod gormod o bethau wedi'u canslo'n ddiweddar, felly rydym yma i gynnig profiadau hyd yn oed mwy gwefreiddiol i’r teulu er mwyn llenwi dyddiau’r haf pan fo’r ysgol ar gau gyda llawer o hwyl a sbri. 

Tiwbio Dŵr Gwyn - O 14 oed

Rydych chi wedi meistroli'r dyfroedd gwyllt mewn rafft, nawr mae'n bryd mynd â hi i’r lefel nesaf. Ac yntau’n wir ddiffiniad o eithafol, tiwbio dŵr gwyn yw'r ffordd orau o fwynhau'r dyfroedd gwyllt. Gan gydio yn eich tiwb aer, byddwch yn eistedd fodfeddi uwchben y dyfroedd gwyllt a byddwch yn bendant ynddyn nhw erbyn i chi orffen y cwrs!

Tiwbio Dŵr Gwyn i’r Teulu - O 10 oed

Rydych chi wedi treulio digon o amser yn ymlacio gyda'ch gilydd. Mae'n bryd rhoi hwb i’ch adrenalin cyn gynted ag y cewch chi adael y soffa! Mae tiwbio dŵr gwyn i’r teulu yn cynnig yr holl sblasio, troelli a nofio y byddwch yn eu cael gyda’r tiwbio dŵr gwyn arferol, ond mae'r dŵr yn ddigon tawel i blant a phobl ifanc ymuno hefyd. Gallu nofio yw'r unig ofyniad hanfodol.

Rafftiau Bach - O 14 oed

Bachwch eich ffrindiau a theulu, efallai'r rhai nad ydych wedi'u gweld ers sbel, a neidiwch ar rafft fach yr haf hwn. Ar ôl sesiwn hyfforddi sy'n rhoi sylw i’r holl dechnegau, cewch gymryd y llyw ar eich rafft eich hun i lawr y dyfroedd gwyllt.

Yn addas i blant 6 oed a hŷn

Os na allwch chi sbwylio’r plant nawr ar ôl y flwyddyn fwyaf diflas erioed, pryd gallwch chi?! Gyda phrisiau gweithgareddau’n dechrau mor isel â £12 am yr Antur Awyr, mae ein gweithgareddau'n cynnig hwyl fforddiadwy ym Mae Caerdydd. Mae'r rhan fwyaf o'n gweithgareddau yn addas i blant 6 oed a hŷn (neu sy’n 132cm o ran taldra) sy'n golygu y gall y teulu cyfan fwynhau diwrnod allan yn y ganolfan, gyda gweithgareddau neu gyrsiau fydd wrth eich boddau.  O sesiynau blasu i sesiynau llawn, mae ein holl weithgareddau’n gwbl wahanol i unrhyw brofiad y byddai plant yn ei gael yn yr ysgol. 

Diogel dan ein gofal ni

Os ydych eisoes yn mynd i banig wrth feddwl am sut i ymdopi â gwyliau'r haf, yna beth am ystyried cadw lle i'ch mab neu’ch merch ar gyfer Wythnos Gweithgareddau Plant y ganolfan y mae galw mawr amdani a gadael iddynt dreulio eu dyddiau mewn ffordd actif gan fwynhau popeth sydd gennym i’w gynnig iddynt? Mae'r gweithgareddau'n cynnwys rafftio dŵr gwyn, caiacio â’r coesau’n rhydd, canŵio, cychod pâr dŵr gwyn, padlfyrddio, yr Antur Awyra thaith i ben ein wal ddringo

Am bum awr dros bum niwrnod, bydd ein hyfforddwyr profiadol yn addysgu, yn annog, yn ysgogi ac yn ymgysylltu â’ch plant wrth i chi weithio. Nid oes math gwell o ofal plant ar gael na hyn. Bydd eich plant yn rhyddhau eu holl egni gyda ni, ac yn dychwelyd atoch ar ôl gwthio eu hunain, goresgyn heriau, gwneud ffrindiau newydd ac yn awyddus i ddychwelyd. Byddant wedi treulio diwrnod mewn ffordd werth chweil, heb sgrîn i’w gweld unrhyw le. Ond peidiwch ag oedi wrth gadw eich lle gan fod lleoedd yn fwy cyfyngedig nag arfer eleni.

Mwynhau yn y Bae

Os ydych chi'n ymuno â'r plant ac yn gwneud diwrnod ohoni, bydd angen bwyd arnoch. Beth am fynd rownd y gornel i Coffee Co. ar ymyl y dŵr ac yfed eich coffi mewn heddwch tra bo'r plant yn bwrw ymlaen, neu bacio eich pethau a gwau eich ffordd i’r Morglawdd neu'r Bae wedyn am sesiwn friffio ar gyfer gweithgaredd a chyfle i gael lluniaeth. Mae ein lleoliad wedi'i amgylchynu gan ddewis helaeth o leoedd i fwyta at ddant pawb, a mannau picnic perffaith i aros a chymryd rhywfaint o awyr y môr. 

Cynlluniwch eich haf y tu allan ac archebwch ar-lein heddiw

Mae holl weithgareddau a chyrsiau DGRhC bellach i'w harchebu ar-lein, felly ewch draw i'n tudalennau gweithgareddau a chyrsiau i gael cipolwg ar yr hyn sydd ar gael, gwirio argaeledd ac archebu eich tocynnau.