ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Ydy hi dal yn bosib i mi ffonio DGRhC?

O ddydd Mawrth 27 Ebrill, bydd ein llinellau ffôn ar agor. Cyn hyn, gallwch gysylltu â ni yn info@ciww.com. Mae croeso i chi ffonio os oes angen i chi drafod archeb neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, ond rydym yn gobeithio y bydd ein system newydd yn golygu y bydd trefnu sesiwn yn broses llawer cyflymach a haws i chi, ar unrhyw adeg o'r dydd. 

Sut ydw i'n cadarnhau pa weithgareddau sydd ar gael? 

O bob un o'r dolenni 'archebu nawr', byddwch yn cael eich cludo i’n platfform archebu, EOLA. Y cyfan sydd angen i chi wneud yw dewis gweithgaredd a dyddiad a bydd y sesiynau sydd ar gael ar gyfer y gweithgaredd neu'r cwrs dan sylw yn ymddangos ar gwymplen oddi tano.

Pam ydw i’n gallu archebu rhai gweithgareddau ar-lein ond nid eraill?  

Mae’n bosib na fydd rhai gweithgareddau ar gael ar adegau neu ddiwrnodau penodol yn ystod yr wythnos, gallai hyn fod am resymau gwahanol. Un enghraifft yw y gall gweithgaredd redeg ar gyflymder dŵr gwahanol (rydym yn gweithredu lefelau ciwmec gwahanol ar adegau penodol) neu gallai’r Gwasanaethau Brys fod yn cynnal hyfforddiant achub llifogydd yn ein lleoliad. Ar hyn o bryd, nid yw rhai gweithgareddau ar gael oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru. Mae llawer o bethau gwych i'w gwneud yn y ganolfan, felly os nad yw gweithgaredd ar gael ar adeg benodol, defnyddiwch y calendr ar y botwm 'archebu nawr' i weld pa weithgareddau gwych y gallwch eu gwneud.

Alla i ddefnyddio tocyn rhodd i dalu ar-lein?

Bydd modd defnyddio tocynnau rhodd a brynwyd o 21 Ebrill 2021 ymlaen ar-lein drwy ein platfform archebu newydd. Os oes gennych docyn a roddwyd i chi cyn y dyddiad hwn, yna bydd angen i chi ein e-bostio ni yn info@ciww.com neu roi galwad i ni ar 029 2082 9970 i drafod eich archeb.

Yw hi’n dal yn bosib prynu tocynnau rhodd DGRhC?

Ydy! Gallwch naill ai ddewis prynu gweithgaredd fel rhodd drwy'r ddolen weithgaredd, neu gallwch brynu tocyn rhodd ariannol drwy'r botwm 'prynu tocyn credyd'.

Pa ddulliau talu ydych chi'n eu derbyn? 

Pan fyddwch yn cyrraedd y dudalen talu, byddwch yn nwylo ein partner archebu EOLA. Mae EOLA yn derbyn yr holl gardiau debyd/credyd mawr gan gynnwys American Express. 

Ydy’r taliad llawn yn cael ei gymryd ar adeg archebu? 

Bydd y taliad llawn yn cael ei gymryd wrth archebu. Darllenwch y polisi canslo sydd ar bob tudalen weithgaredd drwy'r botwm 'archebu nawr'