ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Yr Haf yw hoff adeg pawb i ddianc o’r ddinas a mynd i lan y môr, neu fynd ar y dŵr gyda gweithgaredd adrenalin uchel, megis Rafftio Dŵr Gwyn neu Ton Dan Do. Ond beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn hoffi gwlychu, hyd yn oed yn yr haul?

Yn DGRhC, mae gennym rywbeth at ddant pawb, felly rydym wedi meddwl am y rhai nad ydyn nhw’n mwynhau’r dŵr hefyd! Dyma ychydig o’r gweithgareddau hwyliog y gallwch gymryd rhan ynddynt os yw’n well gennych gadw draw o’r cerrynt:

Wal Ddringo

Mwynhewch fod fri oddi ar y llawr. Mae ein wal ddringo’n berffaith ar gyfer cyfuno adrenalin ac ymarfer corff. O ddechreuwyr pur i rai sy’n mwynhau dringo, mae croeso i ddringwyr o bob oed ddod i dynhau eu cyhyrau ar ein wal a herio’u hunain i gyrraedd y brig.

Dros awr a hanner, bydd gennych gyfle i ymarfer eich corff, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a dringo i’r brig. Byddwn yn cynnig yr holl offer arbenigol a’r hyfforddi – yr unig ofyniad yw eich bod chi o leiaf 107cm o daldra.

Bydd y rheiny sy’n ysu am gael mwy o uchder yn gallu mynd draw i’r Antur Awyr ar gyfer cyfres o rwystrau rhaff uchel uwchben cwrs DGRhC.

Antur Awyr

Peidiwch â meddwl bod rhaffau uchel ar gyfer y plantos yn unig. Mae’r Antur Awyr yn antur rhaffau uchel cyffrous i oedolion a phlant, sydd wedi’i ddylunio i fynd â chi ar daith llygad barcud o gwrs DGRhC.

Ymhlith y rhwystrau cyffrous ar hyd y tir dur a phren mae Cropian Mewn Casgen, Pont Byrma, Siglen Mwnci, ac wrth gwrs y Weiren Wib. Unwaith eto, does dim angen unrhyw offer na phrofiad, felly gallwch daclo’r uchderau fel dechreuwr neu hen law – ta waeth, bydd y cwrs yn siŵr o gael argraff arnoch!

Mae isafswm uchder o 132cm ac uchafswm pwysau o 18 stôn yn berthnasol i’r gweithgaredd hwn, ond gall plant 107cm neu dalach gymryd rhan, os ydynt gydag oedolyn.

Llogi Beics

Os nad ydych yn mwynhau uchder ac mae’n well gennych fod ar y ddaear, rydym hefyd yn cynnig beics i’w llogi. Mae’n berffaith ar gyfer antur teuluol awyr agored munud olaf, does dim rhaid llogi beic ymlaen llaw ac mae’n gyfle perffaith i fynd am dro a gweld golygfeydd Llwybr y Bae Caerdydd.

Yn 10km (6.2 milltir) o hyd, mae Llwybr y Bae yn ymestyn drwy Fae Caerdydd yr holl ffordd i Benarth dros Bont y Werin, gyda golygfeydd godidog o’r glannau, awyr môr ffres a threftadaeth Gymreig ar hyd y llwybr.

Byddwn yn darparu beics a helmedi ar y safle – y cwbl sydd angen i chi ddod yw ID â llun arno ar gyfer y prif archebwr.

Yoga

Beth am ymlacio llwyr yn un o’n dosbarthiadau yoga? Mae’r dosbarthiadau, sy’n addas ar gyfer dechreuwyr pur a’r rhai sydd wedi hen arfer â yoga, wedi’u dylunio i wella hyblygrwydd, cydbwysedd a chryfder, ynghyd â chanolbwyntio a’r cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff. 

Bydd ein dosbarthiadau, sy’n cael eu dysgu gan arbenigwr yoga o’r enw Ceri, yn ymgorffori elfennau ar yoga Hatha, Vinyasa ac Asthanga i gael ymarfer cyflawn fydd yn ysgogi’r corff a’r meddwl.

Dewiswch eich hoff antur – dilynwch y dolenni uchod neu ffoniwch ni i gael gwybod mwy!